Pob ymholiad:
support@tyfu.wales
Cyflwyniad
TMae'r Telerau Gwasanaeth hyn (y “Telerau”) hyn yn llywodraethu eich defnydd o raglen Tyfu, ac yn cynrychioli cytundeb rhyngoch chi a Cradle Care Software Ltd(Tyfu). Mae ein Polisi Preifatrwydd a'n Polisi Hawlfraint ac Eiddo Deallusol wedi'u hymgorffori yn y Telerau hyn. Trwy ddefnyddio'r Gwasanaethau, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau hyn. Os nad ydych yn cytuno â'r Telerau hyn, ni allwch ddefnyddio'r Gwasanaethau.
Gallwch gysylltu â ni unrhyw bryd gyda chwestiynau am y polisi hwn yn support@tyfu.wales.
Newidiadau i'r termau hyn
Mae'n bosib y byddwn yn diweddaru'r Telerau o bryd i'w gilydd yn ôl ein disgresiwn llwyr. Os gwnawn hynny, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy bostio’r Telerau wedi’u diweddaru ar y Wefan, i’r Ap, a/neu efallai y byddwn hefyd yn anfon cyfathrebiadau eraill. Mae'n bwysig eich bod yn adolygu'r Telerau pryd bynnag y byddwn yn eu diweddaru neu pan fyddwch yn defnyddio'r Gwasanaethau. Os byddwch yn parhau i ddefnyddio'r Gwasanaethau ar ôl i ni bostio Telerau wedi'u diweddaru mae'n golygu eich bod yn derbyn ac yn cytuno i'r newidiadau. Os nad ydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y newidiadau, ni chewch ddefnyddio'r Gwasanaethau mwyach, a byddwn yn ad-dalu'ch tanysgrifiad yn llawn.
Preifatrwydd
Mae Tyfu yn cymryd diogelu eich diogelwch a'ch preifatrwydd o ddifrif ac rydym wedi rhoi nifer o fesurau ar waith i ddiogelu cywirdeb eich gwybodaeth. Am ragor o wybodaeth, gweler ein Polisi Preifatrwydd.
Ychwanegu dysgwyr, dosbarthiadau ac athrawon
Mae dysgwyr/dosbarthiadau yn cael eu hychwanegu at y system trwy fewnforio ffeil csv yn cynnwys y wybodaeth sydd ei hangen. Yna gellir creu cyfrifon athrawon a'u cysylltu â dosbarthiadau.
Pan fyddwch yn uwchlwytho gwybodaeth am ddysgwyr rydych yn cytuno:
Cyfrifon rhiant/gwarcheidwad
Gall athrawon roi mynediad i rieni/gwarcheidwaid i weld gwybodaeth yng nghyfnodolyn dysgu eu plentyn, a chyfrannu ati. Trwy ddefnyddio'r Gwasanaethau, rydych yn cytuno mai chi yw rhiant neu warcheidwad cyfreithiol y myfyriwr a bod gennych yr hawl i ddod i gysylltiad â'r myfyriwr. Rydych hefyd yn cydsynio i dderbyn hysbysiadau gwthio yn ymwneud â chyfnodolyn dysgu eich plentyn, fel y pennir gan ysgol eich plentyn.
Darparwyr gwasanaeth trydydd parti
Mae'n bosib y bydd Tyfu yn caniatáu i chi gael mynediad at wefannau trydydd parti neu adnoddau eraill, er enghraifft pan fydd athro yn cynnwys dolen i weithgaredd Bitesize. Rydym yn darparu mynediad fel cyfleustra yn unig ac nid ydym yn gyfrifol am y cynnwys, y cynhyrchion na'r gwasanaethau sydd ar neu sydd ar gael o'r adnoddau neu'r dolenni hynny a ddangosir ar wefannau o'r fath. Rydych yn cydnabod cyfrifoldeb yn unig am ac yn cymryd yr holl risgiau sy’n deillio o’ch defnydd o unrhyw adnoddau trydydd parti.
Gweithgareddau gwaharddedig
Rydych yn cytuno i beidio â gwneud unrhyw un o’r canlynol:
Nid oes rheidrwydd arnom i fonitro mynediad at y Gwasanaethau na'r defnydd ohonynt nac i adolygu neu olygu unrhyw gynnwys. Fodd bynnag, mae gennym yr hawl i wneud hynny at ddiben gweithredu’r Gwasanaethau, i sicrhau cydymffurfiaeth â’r Telerau hyn, ac i gydymffurfio â chyfraith berthnasol neu ofynion cyfreithiol eraill. Rydym yn cadw'r hawl ond nid oes rheidrwydd arnom, i ddileu neu analluogi mynediad at unrhyw gynnwys, gan gynnwys Cynnwys Defnyddiwr, ar unrhyw adeg a heb rybudd, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, os ydym, yn ôl ein disgresiwn llwyr, yn ei ystyried yn annerbyniol neu'n groes i'r Telerau hyn. Mae gennym yr hawl i ymchwilio i achosion o dorri’r Telerau hyn neu ymddygiad sy’n effeithio ar y Gwasanaethau. Gallwn hefyd ymgynghori a chydweithio ag awdurdodau gorfodi'r gyfraith i erlyn defnyddwyr sy'n torri'r gyfraith. I adrodd am achosion o dorri’r polisïau hyn, cysylltwch â help@tyfu.wales.
Tanysgrifiadau
Gwasanaeth tanysgrifio i ysgolion yw Tyfu, gydag isafswm cyfnod contract o 12 mis na ellir ei ad-dalu. Os ydych chi (ysgol) yn prynu tanysgrifiad, mae taliad yn ddyledus o fewn 14 diwrnod i anfon anfoneb. Mae tanysgrifiadau yn dreigl, a byddant yn adnewyddu'n awtomatig oni bai eu bod yn cael eu canslo gan y naill barti neu'r llall cyn y dyddiad adnewyddu. Nid oes modd canslo tanysgrifiadau gweithredol.
Cyfyngiad Atebolrwydd
Ac eithrio fel y darperir yn benodol yn y Cytundeb hwn, nid oes unrhyw amodau, gwarantau neu sylwadau nad ydynt yn dwyllodrus (mynegedig neu ymhlyg) mewn perthynas â'r Gwasanaethau a/neu'r Cynnwys ac mae unrhyw warant neu gynrychiolaeth a awgrymir gan y gyfraith wedi'u heithrio'n benodol i'r graddau eithaf a ganiateir gan gyfraith. Mae'r cwsmer yn cadarnhau'n benodol nad yw'n dibynnu ar unrhyw warant, amod neu gynrychiolaeth nad yw'n dwyllodrus nad yw wedi'i chynnwys neu ei chyfeirio yn y Cytundeb.